Hysbysiad o Gyfethol
CYNGOR TREF ABERMAW
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran 116
Hysbysiad o Gyfethol
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Tref Abermaw yn bwriadu Cyfethol un aelod i lenwi’r lle gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yng Nghymuned (Ward) Abermaw.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
- wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
- yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
- wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
- rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(au) gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn Glanllyn, Water Street, Abermaw LL42 1AT neu trwy ebost
[email protected] erbyn 15fed Mehefin 2020
Dyddiedig y 30ain diwrnod hwn Mai 2020